Job 5:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra,a buan y diflanna cynllun y dichellgar.

14. Brwydrant â thywyllwch hyd yn oed liw dydd,ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.

15. Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael,a'r truan o afael y cryf.

16. Am hynny y mae gobaith i'r tlawd,ac anghyfiawnder yn cau ei safn.

17. “Dedwydd y sawl a gerydda Duw,ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.

18. Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur;ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.

19. Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder;ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.

20. Fe'th achub di rhag marw mewn newyn,a rhag y cleddyf mewn brwydr.

Job 5