Job 5:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear,a'r dyfroedd ar y meysydd.

11. Y mae'n codi'r rhai isel i fyny,a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.

12. Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys;ni all eu dwylo wneud dim o fudd.

13. Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra,a buan y diflanna cynllun y dichellgar.

Job 5