Job 41:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Y mae'r naill yn cydio mor dynn wrth y llall,fel na ellir eu gwahanu.

18. Y mae ei disian yn gwasgaru mellt,a'i lygaid yn pefrio fel y wawr.

19. Daw fflachiadau allan o'i geg,a thasga gwreichion ohoni.

20. Daw mwg o'i ffroenau,fel o grochan yn berwi ar danllwyth.

21. Y mae ei anadl yn tanio cynnud,a daw fflam allan o'i geg.

22. Y mae cryfder yn ei wddf,ac arswyd yn rhedeg o'i flaen.

23. Y mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd,ac mor galed amdano fel na ellir eu symud.

24. Y mae ei galon yn gadarn fel craig,mor gadarn â maen melin.

25. Pan symuda, fe ofna'r cryfion;ânt o'u pwyll oherwydd sŵn y rhwygo.

Job 41