Job 41:12-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ni pheidiaf â sôn am ei aelodau,ei gryfder a'i ffurf gytbwys.

13. Pwy a all agor ei wisg uchaf,neu drywanu ei groen dauddyblyg?

14. Pwy a all agor dorau ei geg,a'r dannedd o'i chwmpas yn codi arswyd?

15. Y mae ei gefn fel rhesi o darianauwedi eu cau'n dynn â sêl.

16. Y maent yn glòs wrth ei gilydd,heb fwlch o gwbl rhyngddynt.

17. Y mae'r naill yn cydio mor dynn wrth y llall,fel na ellir eu gwahanu.

18. Y mae ei disian yn gwasgaru mellt,a'i lygaid yn pefrio fel y wawr.

19. Daw fflachiadau allan o'i geg,a thasga gwreichion ohoni.

20. Daw mwg o'i ffroenau,fel o grochan yn berwi ar danllwyth.

21. Y mae ei anadl yn tanio cynnud,a daw fflam allan o'i geg.

22. Y mae cryfder yn ei wddf,ac arswyd yn rhedeg o'i flaen.

23. Y mae plygion ei gnawd yn glynu wrth ei gilydd,ac mor galed amdano fel na ellir eu symud.

24. Y mae ei galon yn gadarn fel craig,mor gadarn â maen melin.

25. Pan symuda, fe ofna'r cryfion;ânt o'u pwyll oherwydd sŵn y rhwygo.

26. Os ceisir ei drywanu â'r cleddyf, ni lwyddir,nac ychwaith â'r waywffon, dagr, na'r bicell.

27. Y mae'n trafod haearn fel gwellt,a phres fel pren wedi pydru.

28. Ni all saeth wneud iddo ffoi,ac y mae'n trafod cerrig tafl fel us.

29. Fel sofl yr ystyria'r pastwn,ac y mae'n chwerthin pan chwibana'r bicell.

Job 41