Job 41:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Nid oes neb yn ddigon eofn i'w gynhyrfu;a phwy a all sefyll o'i flaen?

11. Pwy a ddaw ag ef ataf, imi gael rhoi gwobr iddoo'r cyfan sydd gennyf dan y nef?

12. Ni pheidiaf â sôn am ei aelodau,ei gryfder a'i ffurf gytbwys.

13. Pwy a all agor ei wisg uchaf,neu drywanu ei groen dauddyblyg?

14. Pwy a all agor dorau ei geg,a'r dannedd o'i chwmpas yn codi arswyd?

15. Y mae ei gefn fel rhesi o darianauwedi eu cau'n dynn â sêl.

16. Y maent yn glòs wrth ei gilydd,heb fwlch o gwbl rhyngddynt.

Job 41