Job 40:6-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:

7. “Gwna dy hun yn barod i'r ornest;fe holaf fi di, a chei dithau ateb.

8. A wyt ti'n gwadu fy mod yn iawn,ac yn fy nghondemnio, i'th gyfiawnhau dy hun?

9. A oes gennyt nerth fel sydd gan Dduw?A fedri daranu â'th lais fel y gwna ef?

10. “Addurna dy hun â balchder ac urddas,a gwisga ogoniant a harddwch.

11. Gollwng yn rhydd angerdd dy ddig;edrych ar bob balch, i'w daflu i'r llawr.

12. Sylwa ar bob balchder, i'w ddiraddio;sathra'r rhai drygionus yn eu lle.

13. Cuddia hwy i gyd yn y llwch;cuddia'u hwynebau o'r golwg.

Job 40