Job 40:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Job:

2. “A ddylai un sy'n dadlau â'r Hollalluog fod yn ystyfnig?Caiff yr un sy'n ymryson â Duw ateb am hynny.”

3. Yna atebodd Job:

4. “Un dibwys wyf fi; beth allaf ei ddweud?Rhof fy llaw ar fy ngheg.

5. Yr wyf wedi llefaru unwaith, ac nid atebaf eto;do ddwywaith, ac ni chwanegaf.”

6. Yna atebodd yr ARGLWYDD Job o'r corwynt:

Job 40