Job 4:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna atebodd Eliffas y Temaniad:

2. “Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd?Eto pwy a all atal geiriau?

3. Wele, buost yn cynghori llawerac yn nerthu'r llesg eu dwylo;

4. cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig,a chadarnhau'r gliniau gwan.

5. Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd;cyffyrddodd â thi, ac yr wyt mewn helbul.

6. Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti,ac uniondeb dy fywyd yn obaith?

7. Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog,a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?

8. Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbulac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi.

Job 4