Job 39:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Oherwydd gadawodd Duw hi heb ddoethineb,ac nid oes ganddi ronyn o ddeall.

18. Ond pan gyfyd a rhedeg,gall chwerthin am ben march a'i farchog.

19. “Ai ti sy'n rhoi nerth i'r march,ac yn gwisgo'i war â mwng?

20. Ai ti sy'n gwneud iddo ruglo fel locust,a gweryru nes creu dychryn?

21. Cura'r llawr â'i droed, ac ymffrostia yn ei nerthpan â allan i wynebu'r frwydr.

Job 39