Job 39:10-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. A wyt yn gallu ei rwymo i gerdded yn y rhych,neu a fydd iddo lyfnu'r dolydd ar dy ôl?

11. A wyt ti'n dibynnu arno am ei fod yn gryf?A adewi dy lafur iddo?

12. A ymddiriedi ynddo i ddod â'th rawn yn ôl,a'i gasglu i'th lawr dyrnu?

13. “Ysgwyd yn brysur a wna adenydd yr estrys,ond heb fedru hedfan fel adenydd y garan;

14. y mae'n gadael ei hwyau ar y ddaear,i ddeor yn y pridd,

15. gan anghofio y gellir eu sathru dan draed,neu y gall anifail gwyllt eu mathru.

16. Y mae'n esgeulus o'i chywion,ac yn eu trin fel pe na baent yn perthyn iddi,heb ofni y gallai ei llafur fod yn ofer.

17. Oherwydd gadawodd Duw hi heb ddoethineb,ac nid oes ganddi ronyn o ddeall.

18. Ond pan gyfyd a rhedeg,gall chwerthin am ben march a'i farchog.

Job 39