Job 38:31-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. A fedri di gau cadwynau Pleiades,neu ddatod rhwymau Orion?

32. A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd,a thywys yr Arth gyda'i phlant?

33. A wyddost ti reolau'r awyr?A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn?

34. “A fedri di alw ar y cwmwli beri i ddyfroedd lifo drosot?

35. A fedri di roi gorchymyn i'r mellt,iddynt ddod atat a dweud, ‘Dyma ni’?

36. Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau,a deall i'r niwl?

37. Gan bwy y mae digon o ddoethineb i gyfrif y cymylau?A phwy a wna i gostrelau'r nefoedd arllwys,

38. nes bod llwch yn mynd yn llaid,a'r tywyrch yn glynu wrth ei gilydd?

39. “Ai ti sydd yn hela ysglyfaeth i'r llew,a diwallu angen y llewod ifanc,

Job 38