Job 38:27-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. i ddigoni'r tir diffaith ac anial,a pheri i laswellt dyfu yno?

28. “A oes tad i'r glaw?Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?

29. O groth pwy y daw'r rhew?A phwy a genhedlodd y llwydrew,

30. i galedu'r dyfroedd fel carreg,a rhewi wyneb y dyfnder?

31. A fedri di gau cadwynau Pleiades,neu ddatod rhwymau Orion?

32. A fedri di ddwyn Masaroth allan yn ei bryd,a thywys yr Arth gyda'i phlant?

33. A wyddost ti reolau'r awyr?A fedri di gymhwyso i'r ddaear ei threfn?

34. “A fedri di alw ar y cwmwli beri i ddyfroedd lifo drosot?

35. A fedri di roi gorchymyn i'r mellt,iddynt ddod atat a dweud, ‘Dyma ni’?

36. Pwy a rydd ddoethineb i'r cymylau,a deall i'r niwl?

Job 38