Job 38:19-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. “Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni,ac i le tywyllwch,

20. fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn,a gwybod y llwybr i'w thŷ?

21. Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno,a bod nifer dy ddyddiau yn fawr!

22. “A fuost ti yn ystordai'r eira,neu'n gweld cistiau'r cesair?

23. Dyma'r pethau a gedwais at gyfnod trallod,at ddydd brwydr a rhyfel.

24. Prun yw'r ffordd i'r fan lle y rhennir goleuni,ac y gwasgerir gwynt y dwyrain ar y ddaear?

25. “Pwy a wnaeth sianel i'r cenllif glaw,a llwybr i'r daranfollt,

26. i lawio ar dir heb neb ynddo,a diffeithwch heb unrhyw un yn byw ynddo,

27. i ddigoni'r tir diffaith ac anial,a pheri i laswellt dyfu yno?

28. “A oes tad i'r glaw?Pwy a genhedlodd y defnynnau gwlith?

Job 38