Job 38:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. A agorwyd pyrth angau i ti,neu a welaist ti byrth y fagddu?

18. A fedri di ddirnad maint y ddaear?Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd.

19. “Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni,ac i le tywyllwch,

20. fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn,a gwybod y llwybr i'w thŷ?

21. Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno,a bod nifer dy ddyddiau yn fawr!

Job 38