Job 38:11-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. a dweud, ‘Hyd yma yr ei, a dim pellach,ac yma y gosodais derfyn i ymchwydd dy donnau’?

12. “A wyt ti, yn ystod dy fywyd, wedi gorchymyn y borea dangos ei lle i'r wawr,

13. er mwyn iddi gydio yng nghonglau'r ddaear,i ysgwyd y drygionus ohoni?

14. Y mae'n newid ffurf fel clai dan y sêl,ac yn sefyll allan fel plyg dilledyn.

15. Atelir eu goleuni oddi wrth y drygionus,a thorrir y fraich ddyrchafedig.

16. “A fedri di fynd at ffynhonnell y môr,neu gerdded yng nghuddfa'r dyfnder?

17. A agorwyd pyrth angau i ti,neu a welaist ti byrth y fagddu?

18. A fedri di ddirnad maint y ddaear?Dywed, os wyt ti'n deall hyn i gyd.

19. “Prun yw'r ffordd i drigfan goleuni,ac i le tywyllwch,

20. fel y gelli di ei chymryd i'w therfyn,a gwybod y llwybr i'w thŷ?

21. Fe wyddost, am dy fod wedi dy eni yr adeg honno,a bod nifer dy ddyddiau yn fawr!

Job 38