Job 37:17-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Ti, sy'n chwysu yn dy ddilladpan fydd y ddaear yn swrth dan wynt y de,

18. a fedrit ti, fel ef, daenu'r wybren,sy'n galed fel drych o fetel tawdd?

19. Dywed wrthym beth i'w ddweud wrtho;oherwydd y tywyllwch ni allwn ni drefnu'n hachos.

20. A ellir dweud wrtho, ‘Yr wyf fi am lefaru’,neu fynegi iddo, ‘Y mae hwn am siarad’?

21. “Ond yn awr, ni all neb edrych ar y goleunipan yw'n ddisglair yn yr awyr,a'r gwynt wedi dod a'i chlirio.

22. Disgleiria o'r gogledd fel aur;o gwmpas Duw y mae ysblander ofnadwy.

23. Ni allwn ni ganfod yr Hollalluog,y mae'n fawr ei nerth;yn ei farn a'i gyfiawnder ni wna gam.

Job 37