Job 37:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Gwibiant yma ac acw ar ei orchymyn,i wneud y cyfan a ddywed wrthynt,dros wyneb daear gyfan.

13. “Gwna hyn naill ai fel cosb,neu er mwyn ei dir, neu mewn trugaredd.

14. “Gwrando ar hyn, Job;aros ac ystyria ryfeddodau Duw.

15. A wyt ti'n deall sut y mae Duw yn trefnu,ac yn gwneud i'r mellt fflachio yn ei gwmwl?

16. A wyt ti'n deall symudiadau'r cymylau,rhyfeddodau un perffaith ei wybodaeth?

17. Ti, sy'n chwysu yn dy ddilladpan fydd y ddaear yn swrth dan wynt y de,

Job 37