Job 36:3-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yr wyf yn tynnu fy ngwybodaeth o bell,i dystio bod fy Ngwneuthurwr yn gyfiawn.

4. Yn wir nid yw fy ngeiriau'n gelwydd;un diogel ei wybodaeth sydd o'th flaen.

5. Edrych yma, Duw yw'r Un Cadarn;nid yw'n anystyriol, eithr mawr a chadarn yw mewn deall.

6. Nid yw'n gadael i'r drygionus gael byw,ond fe gynnal achos y gwan.

7. Ni thry ei olwg oddi ar y cyfiawn,ond gyda brenhinoedd ar orseddcânt eistedd am byth, a llwyddo.

8. Os rhwymir hwy mewn cadwynau,a'u dal mewn gefynnau gofid,

9. yna fe ddengys iddynt eu gweithreda'u trosedd, am iddynt fod yn ffroenuchel.

Job 36