Job 36:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Sylwa mor aruchel yw Duw yn ei nerth;pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef?

23. Pwy a wylia arno yn ei ffordd?a phwy a ddywed, ‘Yr wyt yn gwneud yn anghyfiawn’?

24. “Cofia di ganmol ei waith,y gwaith y canodd pobl amdano.

25. Y mae pawb yn edrych arno,ac yn ei weld o bell.

26. Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall,a'i flynyddoedd yn ddirifedi.

27. Y mae'n cronni'r defnynnau dŵr,ac yn eu dihidlo'n law mân fel tarth;

28. fe'u tywelltir o'r cymylau,i ddisgyn yn gawodydd ar bobl.

29. A ddeall neb daeniad y cwmwl,a'r tyrfau sydd yn ei babell?

30. Edrych fel y taena'i darth o'i gwmpas,ac y cuddia waelodion y môr.

Job 36