Job 36:21-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

21. Gwylia rhag troi at ddrygioni,oherwydd dewisi hyn yn hytrach na gofid.

22. Sylwa mor aruchel yw Duw yn ei nerth;pwy sydd yn dysgu fel y gwna ef?

23. Pwy a wylia arno yn ei ffordd?a phwy a ddywed, ‘Yr wyt yn gwneud yn anghyfiawn’?

24. “Cofia di ganmol ei waith,y gwaith y canodd pobl amdano.

25. Y mae pawb yn edrych arno,ac yn ei weld o bell.

26. Cofia fod Duw yn fawr, y tu hwnt i ddeall,a'i flynyddoedd yn ddirifedi.

27. Y mae'n cronni'r defnynnau dŵr,ac yn eu dihidlo'n law mân fel tarth;

28. fe'u tywelltir o'r cymylau,i ddisgyn yn gawodydd ar bobl.

Job 36