Job 35:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Fe roddaf fi'r ateb iti,a hefyd i'th gyfeillion.

5. Edrych ar yr awyr, ac ystyria,a sylwa ar y cymylau sydd uwch dy ben.

6. Os pechaist, pa wahaniaeth yw iddo ef?Ac os amlha dy droseddau, beth a wna hynny iddo ef?

7. Os wyt yn gyfiawn, beth yw'r fantais iddo ef,neu beth a dderbyn ef o'th law?

8. Â meidrolion fel ti y mae a wnelo dy ddrygioni,ac â phobl y mae a wnelo dy gyfiawnder.

9. “Pan waedda pobl dan faich gorthrwm,a llefain am waredigaeth o afael y mawrion,

10. ni ddywed neb, ‘Ble mae Duw, fy ngwneuthurwr,a rydd destun cân yn y nos,

Job 35