Job 34:31-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. “Os dywed un wrth Dduw,‘Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto;

32. am na allaf fi weld, hyffordda di fi;os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato’—

33. a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybioy bydd ef yn fodlon ar hynny?Ti sydd i ddewis, nid fi;traetha yr hyn a wyddost.

34. Y mae pobl ddeallus yn siarad â mi,a rhai doeth yn gwrando arnaf.

35. Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried,ac nid yw ei eiriau yn ddeallus.

36. O na phrofid Job i'r eithaf,gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg!

Job 34