Job 32:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. O'm mewn yr wyf fel petai gwin yn methu arllwys allan,a minnau fel costrelau newydd ar fin rhwygo.

20. Rhaid i mi lefaru er mwyn cael gollyngdod,rhaid i mi agor fy ngenau i ateb.

21. Ni ddangosaf ffafr at neb,ac ni wenieithiaf i neb;

22. oherwydd ni wn i sut i wenieithio;pe gwnawn hynny, byddai fy nghreawdwr ar fyr dro yn fy symud.”

Job 32