Job 32:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Am hyn yr wyf yn dweud, ‘Gwrando arnaf;gad i minnau ddweud fy marn.’

11. “Bûm yn disgwyl am eich geiriau,ac yn gwrando am eich deallusrwydd;tra oeddech yn dewis eich geiriau,

12. sylwais yn fanwl arnoch,ond nid oedd yr un ohonoch yn gallu gwrthbrofi Job,nac ateb ei ddadleuon.

13. Peidiwch â dweud, ‘Fe gawsom ni ddoethineb’;Duw ac nid dyn a'i trecha.

14. Nid yn f'erbyn i y trefnodd ei ddadleuon;ac nid â'ch geiriau chwi yr atebaf fi ef.

Job 32