Job 31:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. “Os denwyd fy nghalon gan ddynes,ac os bûm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog,

10. yna caiff fy ngwraig innau falu blawd i arall,a chaiff dieithryn orwedd gyda hi.

11. Oherwydd byddai hynny'n anllad,ac yn drosedd i'r barnwyr;

12. byddai fel tân yn difa'n llwyr,ac yn dinistrio fy holl gynnyrch.

13. “Os diystyrais achos fy ngwas neu fy morwynpan oedd ganddynt gŵyn yn fy erbyn,

14. beth a wnaf pan gyfyd Duw?Beth a atebaf pan ddaw i'm cyhuddo?

15. Onid ef a'n gwnaeth ni'n dau yn y groth,a'n creu yn y bru?

Job 31