Job 31:4-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Onid yw ef yn sylwi ar fy ffyrdd,ac yn cyfrif fy nghamau?

5. “A euthum ar ôl oferedd,a phrysuro fy ngherddediad i dwyllo?

6. Pwyser fi mewn cloriannau cywiri Dduw gael gweld fy nghywirdeb.

7. Os gwyrodd fy ngham oddi ar y ffordd,a'm calon yn dilyn fy llygaid,neu os glynodd unrhyw aflendid wrth fy nwylo,

8. yna caiff arall fwyta'r hyn a heuais,a diwreiddir yr hyn a blennais.

9. “Os denwyd fy nghalon gan ddynes,ac os bûm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog,

10. yna caiff fy ngwraig innau falu blawd i arall,a chaiff dieithryn orwedd gyda hi.

11. Oherwydd byddai hynny'n anllad,ac yn drosedd i'r barnwyr;

12. byddai fel tân yn difa'n llwyr,ac yn dinistrio fy holl gynnyrch.

13. “Os diystyrais achos fy ngwas neu fy morwynpan oedd ganddynt gŵyn yn fy erbyn,

14. beth a wnaf pan gyfyd Duw?Beth a atebaf pan ddaw i'm cyhuddo?

15. Onid ef a'n gwnaeth ni'n dau yn y groth,a'n creu yn y bru?

16. “Os rhwystrais y tlawd rhag cael ei ddymuniad,neu siomi disgwyliad y weddw;

17. os bwyteais fy mwyd ar fy mhen fy hun,a gwrthod ei rannu â'r amddifad—

18. yn wir bûm fel tad yn ei fagu o'i ieuenctid,ac yn ei arwain o adeg ei eni—

19. os gwelais grwydryn heb ddillad,neu dlotyn heb wisg,

Job 31