Job 31:14-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. beth a wnaf pan gyfyd Duw?Beth a atebaf pan ddaw i'm cyhuddo?

15. Onid ef a'n gwnaeth ni'n dau yn y groth,a'n creu yn y bru?

16. “Os rhwystrais y tlawd rhag cael ei ddymuniad,neu siomi disgwyliad y weddw;

17. os bwyteais fy mwyd ar fy mhen fy hun,a gwrthod ei rannu â'r amddifad—

18. yn wir bûm fel tad yn ei fagu o'i ieuenctid,ac yn ei arwain o adeg ei eni—

19. os gwelais grwydryn heb ddillad,neu dlotyn heb wisg,

20. a'i lwynau heb fy mendithioam na chynheswyd ef gan gnu fy ŵyn;

21. os codais fy llaw yn erbyn yr amddifadam fy mod yn gweld cefnogaeth imi yn y porth;

22. yna disgynned f'ysgwydd o'i lle,a thorrer fy mraich o'i chyswllt.

Job 31