Job 30:25-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Oni wylais dros yr un yr oedd yn galed arno,a gofidio dros y tlawd?

26. Eto pan obeithiais i am ddaioni, daeth drwg;pan ddisgwyliais am oleuni, dyna dywyllwch.

27. Y mae cyffro o'm mewn; ni chaf lonydd,daeth dyddiau gofid arnaf.

28. Af o gwmpas yn groenddu, ond nid gan wres haul;codaf i fyny yn y gynulleidfa i ymbil am gymorth.

29. Yr wyf yn frawd i'r siacal,ac yn gyfaill i'r estrys.

30. Duodd fy nghroen,a llosgodd f'esgyrn gan wres.

Job 30