Job 3:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi hyn dechreuodd Job siarad a melltithio dydd ei eni.

2. Meddai Job:

3. “Difoder y dydd y'm ganwyd,a'r nos y dywedwyd, ‘Cenhedlwyd bachgen’.

4. Bydded y dydd hwnnw yn dywyllwch;na chyfrifer ef gan Dduw oddi uchod,ac na lewyrched goleuni arno.

5. Cuddier ef gan dywyllwch a'r fagddu;arhosed cwmwl arno a gorlether ef gan ddüwch y dydd.

Job 3