Job 29:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. a'm gwreiddiau yn ymestyn at y dyfroedd,a'r gwlith yn aros drwy'r nos ar fy mrigau,

20. a'm hanrhydedd o hyd yn iraidd,a'm bwa yn adnewyddu yn fy llaw.’

21. “Gwrandawai pobl arnaf,a disgwylient yn ddistaw am fy nghyngor.

22. Wedi imi lefaru, ni ddywedent air;diferai fy ngeiriau arnynt.

Job 29