Job 28:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir,a llwch aur sydd ynddi.

7. Y mae llwybr na ŵyr hebog amdano,ac nas gwelwyd gan lygad barcud,

8. ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar,ac na theithiodd y llew arno.

9. Estyn dyn ei law am y gallestr,a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.

10. Egyr dwnelau yn y creigiau,a gwêl ei lygaid bopeth gwerthfawr.

11. Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd,a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt.

12. Ond pa le y ceir doethineb?a pha le y mae trigfan deall?

13. Ni ŵyr neb ble mae ei chartref,ac nis ceir yn nhir y byw.

14. Dywed y dyfnder, “Nid yw gyda mi”;dywed y môr yntau, “Nid yw ynof fi.”

15. Ni ellir rhoi aur yn dâl amdani,na phwyso'i gwerth mewn arian.

16. Ni ellir mesur ei gwerth ag aur Offir,nac ychwaith â'r onyx gwerthfawr na'r saffir.

Job 28