1. Y mae gwythïen i arian,a gwely i'r aur a burir.
2. Tynnir yr haearn o'r ddaear,a thoddir y garreg yn gopr.
3. Rhydd dyn derfyn ar dywyllwch,a chwilio hyd yr eithafam y mwyn yn y tywyllwch dudew.
4. Agorir pyllau yn y cymoedd ymhell oddi wrth bawb;fe'u hanghofiwyd gan y teithwyr.Y maent yn hongian ymhell o olwg pobl,gan siglo'n ôl ac ymlaen.
5. Ceir bwyd o'r ddaear,eto oddi tani y mae wedi ei chynhyrfu fel gan dân.
6. Y mae ei cherrig yn ffynhonnell y saffir,a llwch aur sydd ynddi.
7. Y mae llwybr na ŵyr hebog amdano,ac nas gwelwyd gan lygad barcud,
8. ac nas troediwyd gan anifeiliaid rhodresgar,ac na theithiodd y llew arno.
9. Estyn dyn ei law am y gallestr,a thry'r mynyddoedd yn bendramwnwgl.
10. Egyr dwnelau yn y creigiau,a gwêl ei lygaid bopeth gwerthfawr.
11. Gesyd argae i rwystro lli'r afonydd,a dwg i oleuni yr hyn a guddiwyd ynddynt.
12. Ond pa le y ceir doethineb?a pha le y mae trigfan deall?