Job 27:9-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. A wrendy Duw ar ei gripan ddaw gofid iddo?

10. A yw ef yn ymhyfrydu yn yr Hollalluog?A eilw ef ar Dduw yn gyson?

11. Dysgaf chwi am allu Duw,ac ni chuddiaf ddim o'r hyn sydd gan yr Hollalluog.

12. Yn wir yr ydych chwi i gyd wedi ei weld eich hunain;pam, felly, yr ydych mor gwbl ynfyd?

13. “Dyma dynged y drygionus oddi wrth Dduw,ac etifeddiaeth y gormeswr gan yr Hollalluog:

14. os yw ei blant yn niferus, y cleddyf fydd eu rhan,ac ni ddigonir ei hiliogaeth â bwyd.

15. Y rhai a edy ar ei ôl, fe'u cleddir o bla,ac ni wyla'u gweddwon amdanynt.

16. Er iddo bentyrru arian fel llwcha darparu dillad fel clai,

17. er iddo ef eu darparu, fe'u gwisgir gan y cyfiawn,a'r diniwed a ranna'r arian.

18. Y mae'n adeiladu ei dŷ fel y pryf copyn,ac fel y bwth a wna'r gwyliwr.

19. Pan â i gysgu, y mae ganddo gyfoeth,ond ni all ei gadw;pan yw'n agor ei lygaid, nid oes ganddo ddim.

20. Daw ofnau drosto fel llifogydd,a chipia'r storm ef ymaith yn y nos.

21. Cipia gwynt y dwyrain ef, a diflanna;fe'i hysguba o'i le.

22. Hyrddia arno'n ddidrugaredd,er iddo ymdrechu i ffoi o'i afael.

23. Cura'i ddwylo arno,a'i hysio o'i le.”

Job 27