Job 27:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Oherwydd pa obaith sydd i'r annuwiol pan dorrir ef i lawr,a phan gymer Duw ei einioes oddi arno?

9. A wrendy Duw ar ei gripan ddaw gofid iddo?

10. A yw ef yn ymhyfrydu yn yr Hollalluog?A eilw ef ar Dduw yn gyson?

11. Dysgaf chwi am allu Duw,ac ni chuddiaf ddim o'r hyn sydd gan yr Hollalluog.

12. Yn wir yr ydych chwi i gyd wedi ei weld eich hunain;pam, felly, yr ydych mor gwbl ynfyd?

13. “Dyma dynged y drygionus oddi wrth Dduw,ac etifeddiaeth y gormeswr gan yr Hollalluog:

14. os yw ei blant yn niferus, y cleddyf fydd eu rhan,ac ni ddigonir ei hiliogaeth â bwyd.

Job 27