Job 27:13-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. “Dyma dynged y drygionus oddi wrth Dduw,ac etifeddiaeth y gormeswr gan yr Hollalluog:

14. os yw ei blant yn niferus, y cleddyf fydd eu rhan,ac ni ddigonir ei hiliogaeth â bwyd.

15. Y rhai a edy ar ei ôl, fe'u cleddir o bla,ac ni wyla'u gweddwon amdanynt.

16. Er iddo bentyrru arian fel llwcha darparu dillad fel clai,

17. er iddo ef eu darparu, fe'u gwisgir gan y cyfiawn,a'r diniwed a ranna'r arian.

18. Y mae'n adeiladu ei dŷ fel y pryf copyn,ac fel y bwth a wna'r gwyliwr.

19. Pan â i gysgu, y mae ganddo gyfoeth,ond ni all ei gadw;pan yw'n agor ei lygaid, nid oes ganddo ddim.

20. Daw ofnau drosto fel llifogydd,a chipia'r storm ef ymaith yn y nos.

21. Cipia gwynt y dwyrain ef, a diflanna;fe'i hysguba o'i le.

22. Hyrddia arno'n ddidrugaredd,er iddo ymdrechu i ffoi o'i afael.

23. Cura'i ddwylo arno,a'i hysio o'i le.”

Job 27