Job 24:2-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Y mae'r annuwiol yn symud terfynau,ac yn lladrata'r praidd i'w bugeilio.

3. Dygant asyn yr amddifad i ffwrdd,a thywysant ymaith ych y weddw.

4. Gwthiant y tlawd o'r ffordd,a chwilia rhai anghenus y wlad am le i ymguddio.

5. Ânt i'w gorchwyl fel asynnod gwyllt yn yr anialwch;chwiliant am ysglyfaeth yn y diffeithwch, yn fwyd i'w plant.

Job 24