Job 22:24-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. os ystyri aur fel pridd,aur Offir fel cerrig y nentydd,

25. yna bydd yr Hollalluog yn aur iti,ac yn arian pur.

26. Yna cei ymhyfrydu yn yr Hollalluog,a dyrchafu dy wyneb at Dduw.

27. Cei weddïo arno, ac fe'th wrendy,a byddi'n cyflawni dy addunedau.

28. Pan wnei gynllun, fe lwydda iti,a llewyrcha goleuni ar dy ffyrdd.

29. Fe ddarostyngir y rhai a ystyri'n falch;yr isel ei fryd a wareda ef.

30. Fe achub ef y dieuog;achubir ef am fod ei ddwylo'n lân.”

Job 22