Job 21:7-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. “Pam y caiff yr annuwiol fyw,a heneiddio'n gadarnach eu nerth?

8. Y mae eu plant yn byw o'u cwmpas,a'u teulu yn eu hymyl.

9. Y mae eu tylwyth yn ddiogel oddi wrth ddychryn,ac ni ddaw dyrnod Duw arnynt.

10. Y mae eu tarw'n cyfloi yn ddi-feth,a'u buwch yn bwrw lloi heb erthylu.

11. Caiff eu plantos grwydro'n rhydd fel defaid,a dawnsia'u plant yn hapus.

12. Canant gyda'r dympan a'r delyn,a byddant lawen wrth sŵn y pibau.

13. Treuliant eu dyddiau mewn esmwythyd,a disgynnant i Sheol mewn heddwch.

14. Dywedant wrth Dduw, ‘Cilia oddi wrthym;ni fynnwn wybod dy ffyrdd.

Job 21