Job 21:27-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. “Yn awr gwn eich meddyliau,a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu;

28. oherwydd dywedwch, ‘Ble'r aeth tŷ'r pendefig?a phle mae trigfannau'r annuwiol?’

29. Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd?Onid ydych yn adnabod yr arwyddion,

30. yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr,ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint?

31. Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb?Pwy a dâl yn ôl iddo am yr hyn a wnaeth?

32. Pan ddygir ef i'r bedd,cedwir gwyliadwriaeth ar ei feddrod.

Job 21