Job 21:24-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. ei lwynau yn llawn braster,a mêr ei esgyrn yn iraidd.

25. Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd,heb brofi daioni.

26. Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd,a'r pryfed yn amdo drostynt.

27. “Yn awr gwn eich meddyliau,a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu;

28. oherwydd dywedwch, ‘Ble'r aeth tŷ'r pendefig?a phle mae trigfannau'r annuwiol?’

29. Oni ofynnwch i'r rhai sy'n teithio'r ffordd?Onid ydych yn adnabod yr arwyddion,

30. yr arbedir y drygionus rhag dydd dinistr,ac y gwaredir ef rhag dydd digofaint?

31. Pwy a'i cyhudda yn ei wyneb?Pwy a dâl yn ôl iddo am yr hyn a wnaeth?

Job 21