Job 21:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. ei lwynau yn llawn braster,a mêr ei esgyrn yn iraidd.

25. Bydd arall farw yn chwerw ei ysbryd,heb brofi daioni.

26. Ond gorweddant gyda'i gilydd yn y pridd,a'r pryfed yn amdo drostynt.

27. “Yn awr gwn eich meddyliau,a'r bwriadau sydd gennych i'm drygu;

28. oherwydd dywedwch, ‘Ble'r aeth tŷ'r pendefig?a phle mae trigfannau'r annuwiol?’

Job 21