Job 21:15-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Pwy yw'r Hollalluog i ni ei wasanaethu,a pha fantais sydd inni os gweddïwn arno?’

16. “Ai yn eu dwylo'u hunain y mae eu ffyniant?Pell yw cyngor y drygionus oddi wrth Dduw.

17. “Pa mor aml y diffoddir lamp yr annuwiol,ac y daw eu dinistr arnynt hwy,ac y tynghedir hwy i boen gan ei lid?

18. A ydynt hwy fel gwelltyn o flaen y gwynt,neu fel us a ddygir ymaith gan y storm?

Job 21