Job 20:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Tynnir hi allan o'i gorff,y blaen gloyw allan o'i fustl;daw dychrynfeydd arno.

26. Tywyllwch llwyr a gadwyd ar gyfer ei drysorau;ysir ef gan dân nad oes raid ei chwythu;difethir yr hyn a adawyd yn ei babell.

27. Dadlenna'r nefoedd ei gamwedd,a chyfyd y ddaear yn ei erbyn.

28. Bydd i'r dilyw ddwyn ymaith ei dŷ,a llifogydd, yn nydd ei lid.

29. Dyma dynged yr annuwiol oddi wrth Dduw,a'r etifeddiaeth a osododd iddo.”

Job 20