Job 20:2-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. “Yn awr, fe'm cynhyrfir i ateb;am hynny atebaf ar frys.

3. Clywais gerydd sy'n fy nifrïo;y mae cynnwrf fy meddwl yn fy ngorfodi i ateb.

4. Onid wyt yn gwybod hyn? o'r dechrau,er pan osodwyd pobl ar y ddaear,

5. byr yw gorfoledd y drygionus,ac am gyfnod yn unig y pery llawenydd yr annuwiol.

6. Er i'w falchder esgyn i'r uchelder,ac i'w ben gyffwrdd â'r cymylau,

7. eto derfydd am byth fel ei dom ei hun,a dywed y rhai a'i gwelodd, ‘Ple mae ef?’

8. Eheda ymaith fel breuddwyd, ac ni fydd yn bod;fe'i hymlidir fel gweledigaeth nos.

9. Y llygad a'i gwelodd, ni wêl mohono mwy,ac nid edrych arno yn ei le.

10. Cais ei blant ffafr y tlawd,a dychwel ei ddwylo ei gyfoeth.

11. Y mae ei esgyrn sy'n llawn egniyn gorwedd gydag ef yn y llwch.

12. “Er i ddrygioni droi'n felys yn ei enau,a'i fod yntau am ei gadw dan ei dafod,

13. ac yn anfodlon ei ollwng,ond yn ei ddal dan daflod ei enau,

Job 20