Job 20:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. ac yn anfodlon ei ollwng,ond yn ei ddal dan daflod ei enau,

14. eto y mae ei fwyd yn ei gyllayn troi'n wenwyn asb iddo.

15. Llynca gyfoeth, ac yna'i chwydu;bydd Duw'n ei dynnu allan o'i fol.

16. Sugna wenwyn yr asb,ac yna fe'i lleddir gan golyn gwiber.

17. Ni chaiff weld ffrydiau o olew,nac afonydd o fêl a llaeth.

18. Dychwel ffrwyth ei lafur heb iddo elwa arno;er cymaint ei enillion, ni chaiff eu mwynhau.

19. Oherwydd gorthrymodd y tlawd a'i adael yn ddiymgeledd;cipiodd dŷ nas adeiladodd.

Job 20