Job 19:12-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Daeth ei fyddinoedd ynghyd;gosodasant sarn hyd ataf,ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.

13. “Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf,ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.

14. Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod,ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.

15. Fel dieithryn y meddylia fy morynion amdanaf;estron wyf yn eu golwg.

Job 19