Job 19:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Bwriodd fi i lawr yn llwyr, a darfu amdanaf;diwreiddiodd fy ngobaith fel coeden.

11. Enynnodd ei lid yn f'erbyn,ac fe'm cyfrif fel un o'i elynion.

12. Daeth ei fyddinoedd ynghyd;gosodasant sarn hyd ataf,ac yna gwersyllu o amgylch fy mhabell.

13. “Cadwodd fy mherthnasau draw oddi wrthyf,ac aeth fy nghyfeillion yn ddieithr.

14. Gwadwyd fi gan fy nghymdogion a'm cydnabod,ac anwybyddwyd fi gan fy ngweision.

Job 19