Job 18:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Fe dywylla'r goleuni yn ei babell,a diffydd ei lamp uwch ei ben.

7. Byrhau a wna'i gamau cryfion,a'i gyngor ei hun a wna iddo syrthio.

8. Fe'i gyrrir ef i'r rhwyd gan ei draed ei hun;y mae'n sangu ar y rhwydwaith.

9. Cydia'r trap yn ei sawdl,ac fe'i delir yn y groglath.

10. Cuddiwyd cortyn iddo ar y ddaear,ac y mae magl ar ei lwybr.

11. Y mae ofnau o bob tu yn ei ddychryn,ac yn ymlid ar ei ôl.

12. Pan ddaw pall ar ei gryfder,yna y mae dinistr yn barod am ei gwymp.

Job 18