Job 17:8-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Synna'r cyfiawn at y fath beth,a ffyrniga'r uniawn yn erbyn yr annuwiol.

9. Fe geidw'r cyfiawn at ei ffordd,a bydd y glân ei ddwylo yn ychwanegu nerth.

10. Pe baech i gyd yn rhoi ailgynnig,eto ni chawn neb doeth yn eich plith.

11. “Ciliodd fy nyddiau; methodd f'amcaniona dyhead fy nghalon.

12. Gwnânt y nos yn ddydd—dewisant weld goleuni er gwaethaf y tywyllwch.

13. Pa obaith sydd gennyf? Sheol fydd fy nghartref;cyweiriaf fy ngwely yn y tywyllwch;

14. dywedaf wrth y pwll, ‘Ti yw fy nhad’,ac wrth lyngyr, ‘Fy mam a'm chwaer’.

15. Ble, felly, y mae fy ngobaith?A phwy a wêl obaith imi?

Job 17