Job 17:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. “Llesgaodd fy ysbryd, ciliodd fy nyddiau;beddrod fydd fy rhan.

2. Yn wir y mae gwatwarwyr o'm cwmpas;pyla fy llygaid wrth iddynt wawdio.

3. “Gosod dy hun yn feichiau drosof;pwy arall a rydd wystl ar fy rhan?

4. Oherwydd iti gadw eu calon rhag deall,ni fydd i ti eu dyrchafu.

5. Pan fydd rhywun yn gwenieithu ei gyfeillion,bydd llygaid ei blant yn pylu.

Job 17